Copertina del podcast

Trafod Gwelliant

  • Creu amodau i gynnal gwelliant

    28 APR 2024 · Pa mor bwysig yw diogelwch seicolegol yn y gweithle? Beth yw'r effaith ar les a chynhyrchiant? Yn ein trafodaeth gyda'r gwestai, Nicola Williams, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio, mae’n son am ei phrofiadau ac arbenigedd ar faterion diogelwch seicolegol yn Ymddiriedolaeth GIG Ysbyty Prifysgol Felindre. Mae Nicola Williams wedi bod yn arweinydd blaenllaw ar gyfer mentrau diogelwch seicolegol. Mae hi wedi arwain ymdrechion o fewn yr Ymddiriedolaeth, gan gynnwys arwain y Grŵp Cydweithredol Gofal Diogel. Bydd Nicola yn trafod llwyddiannau, heriau, a phwysigrwydd meithrin amgylchedd seicolegol diogel i staff a chleifion.Mae’n bwysig meithrin amgylchedd, meddai, “ lle mae timau'n teimlo eu bod yn gallu cymryd risgiau, yn gallu mynegi syniadau a phryderon, eu bod yn gallu codi llais pan fydd rhywbeth wedi mynd o'i le a chyfaddef mewn gwirionedd i gamgymeriadau sy'n anodd iawn i rai heb ofni y bydd canlyniadau neu ganlyniadau negyddol i hynny.”  Cawn ddeall hanfod diogelwch seicolegol, ei goblygiadau ar gyfer unigolion a diwylliant sefydliadol, a strategaethau ymarferol ar gyfer ei weithredu a'i wella. Mae Nicola yn tynnu sylw at bwysigrwydd blaenoriaethu diogelwch seicolegol mewn lleoliadau gofal iechyd er mwyn gwella llesiant a pherfformiad. Yn y bennod Gymraeg hon, actor sy’n lleisio geiriau Nicola Williams. I glywed y fersiwn Saesneg gwreiddiol ewch i: https://www.spreaker.com/episode/creating-the-conditions-for-sustainable-improvement--59283958
    Ascoltato 16 min. 30 sec.
  • Prosiect cymunedol i leihau nifer galwadau 999

    21 APR 2024 · Pan fydd person oedranus yn cwympo yn y cartref, yn aml yr ymateb cynta i’r gofalwyr yw i ffonio am ambiwlans. Gyda bron i hanner miliwn o bobl dros 65 oed yn cwympo pob blwyddyn, mae’r straen ar y gwasanaeth ambiwlans yn aruthrol. Mae’r podlediad yma yn trafod prosiect cydweithredol sy'n anelu at leihau galwadau ambiwlans pan fo rhywun yn cael codwm yn y cartref yng Nghymru. Esbonia Eleri D’Arcy o Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe nodweddion a nodau y prosiect, gan bwysleisio effaith economaidd-gymdeithasol cwympo ar bobl hŷn. “Yn y bwrdd iechyd, rydym yn cydnabod bod codwm wedi bod yn broblem enfawr ers nifer o flynyddoedd,” meddai. “Bellach mae gennym dechnoleg newydd a all ein cefnogi i wneud penderfyniadau gwell a chefnogi pobl gartref am gyfnod hirach.”  Mae Demi Catterill o Grŵp Gofal ‘Simply Safe’ yn ymhelaethu ar eu gwaith a'r hyfforddiant a gynhaliwyd, gan nodi swyddogaeth yr ap iStumble yn y broses benderfynu.   Amy Jenkins o Gyngor Abertawe sy’n son am rôl y cyngor yn cefnogi'r prosiect a meithrin dulliau gofal amgen. Nodir cymorth y Grŵp cydweithredol Gofal Diogel am ddarparu strwythur a sicrhau cynnydd systematig, gyda chyfraniad gan Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru i leihau galwadau amhriodol. Yn y bennod Gymraeg hon, actorion sy’n lleisio geiriau’r cyfrannwyr. I glywed y fersiwn Saesneg gwreiddiol ewch i: https://www.spreaker.com/episode/a-local-collaboration-community-project-to-help-reduce-999-calls--59283960
    Ascoltato 32 min. 51 sec.
  • Hwb Llywio Clinigol - lleihau’r pwysau ar adrannau brys ysbytai a’r gwasanaeth ambiwlans

    14 APR 2024 · Sut mae lleddfu’r pwysau cynyddol sydd ar adrannau brys ysbytai a gwasanaethau ambiwlans?  Yn y bennod hon mae Dr Dewi Rogers meddyg teulu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn son am ddull o gydweithio arloesol o enw’ r Hyb Llywio Clinigol. Fel rhan o’r Grŵp Cydweithredol Gofal Diogel, mae’r hwb hwn yn cynnig adnodd canolog i sefydliadau fel cartrefi gofal, gan ddarparu cyngor a chymorth amserol, gan leddfu’r straen ar wasanaethau gofal iechyd critigol.  Mae Dr Rogers yn son am sut mae’r Hwb yn galluogi cartrefi gofal i wneud penderfyniadau gwybodus a darparu gofal wedi’i deilwra, gan leihau ymweliadau diangen i’r ysbyty. Os yw'r claf yn sefydlog ac nad yw mewn perygl ar unwaith, yn lle galw ambiwlans yn syth ,mae Dr Rogers yn eu darbwyllo i alw’r Hwb “Rydym yn gweld llwyddiannau aruthrol gyda'r hyn ry ni’n gwneud. O’r 80% i 90% o'r galwadau a gawn o gartrefi nyrsio, rydym yn llwyddo i osgoi cludo’r cleifion hyn  i’r ysbyty ac ry ni’n eu cadw gartref lle maen nhw’n dymuno bod ac yn eu rheoli'n ddiogel,” meddai. Yn y bennod Gymraeg hon, actor sy’n lleisio geiriau Dr Rogers. I glywed y fersiwn Saesneg gwreiddiol ewch i: https://www.spreaker.com/episode/the-clinical-navigation-hub-reducing-pressure-on-wast-emergency-departments-and-capacity-in-acute-hospitals--59283959
    Ascoltato 27 min. 40 sec.
  • Call 4 Concern

    7 APR 2024 · Pan fydd cyflwr claf yn gwaethygu at bwy ddylai’r claf neu’r teulu droi ato os , yn eu tyb nhw, bod yr achos yn cael ei anwybyddi gan y tîm meddygol? Yr ateb yw’r gwasanaeth Call 4 Concern.  Yn y bennod hon mae Eirian Edwards uwch ymarferydd nyrsio yn Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn trafod y gwasanaeth arloesol cafodd ei gyflwyno gan y Bwrdd fis Ebrill 2023.  Yn ôl Eirian, roedd 'na gydnabyddiaeth ymhlith y staff er bod ganddyn nhw lawer o brofiad ac arbenigedd, pan fydd rhywun yn mynd yn wael, mae’r tîm meddygol weithiau yn colli rhywbeth y mae’r teulu yn sylwi arno. Gallan nhw ffonio Call 4 Concern unrhywbryd.  “Rydyn ni'n cynnig y cyfle hwn i gleifion a pherthnasau gael rhywun wrth ochr eu gwely sydd â sgiliau ychwanegol ac sydd fel arfer yn dod â chefndir gofal critigol," meddai.  Fe fydd y bennod yn trafod yr heriau o gyflwyno’r gwasanaeth gan gynnwys perswadio’r staff meddygol na fyddai’r galwadau i Call 4 Concern yn rhai dibwys. Mae Eirian yn sôn am y cynlluniau i ymestyn y gwasanaeth i ysbytai eraill yng Ngogledd Cymru, a chydweithio gydag Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. improvementcymru.net/podlediad X: @GwelliantCymru
    Ascoltato 12 min. 54 sec.
  • 'Ffordd Toyota' gyda Nick Pearn

    27 SET 2022 · Yn y bennod hon, eisteddodd Sarah Patmore, a Nick Pearn, Arbenigwr Egwyddorau yng Nghanolfan Rheoli Darbodus Toyota i drafod cydweithio ar wahanol brosiectau gwella, gan ganolbwyntio'n benodol ar wella effeithlonrwydd prosesau profion labordy yn ystod anterth Covid-19. Siaradodd Nick â ni am y gwaith y mae Canolfan Rheoli Darbodus Toyota yn ei wneud a sut y gall egwyddorion darbodus sydd wrth wraidd Ffordd Toyota helpu i fynd i'r afael â'r heriau sy'n cael eu hwynebu gan GIG Cymru. Meddai Nick, 'Fe ddysgon ni'n eithaf cynnar mai un o'r egwyddorion y mae Toyota yn credu’n gryf ynddi yw’r awydd i gyfrannu at gymdeithas. A phan ofynnom sut allwn wneud hynny, ni wnaethom gynnig opsiwn gwell na gweithio gyda'r gwasanaethau iechyd.'
    Ascoltato 40 min. 37 sec.
  • Meddylfyrd Dylunio gyda Dr Philip Webb

    20 SET 2022 · Ar gyfer y bennod hon o 'Trafod Gwelliant', rydym yn trafod gwelliant ac arloesedd gyda Dr Philip Webb, Prif Weithredwr Arloesedd Anadlol Cymru (RIW). Pan ofynnwyd iddo am egwyddorion meddwl dylunio, dywedodd Philip, 'Dwi'n meddwl bod meddwl dylunio yn fath o gyfuniad rhwng emosiwn ac athroniaeth i mi. Os ydyn ni wir yn rhoi pobl yng nghanol popeth rydyn ni'n ei wneud, mae'n rhaid i ni gynnwys pobl yn y broses o feddwl am syniadau newydd a ffyrdd newydd o wneud pethau.'
    Ascoltato 37 min. 18 sec.
  • Sepsis codi ymwybyddiaeth gyda Terence Canning

    20 SET 2022 · Yn y bennod hon o Trafod Gwelliant, siaradodd Terence Canning, Cyfarwyddwr Gweithredol Cymru ar gyfer Ymddiriedolaeth Sepsis y DU â Martine Price, Nyrs Arweiniol gyda Gwelliant Cymru am bwysigrwydd codi ymwybyddiaeth o sepsis. Dywedodd Terence, ‘Ond yr hyn y byddem yn ei ddweud gyda sepsis yw, nid yw’n gwahaniaethu yn erbyn neb. Mae'n effeithio ar bawb. Felly mae angen i ni gasglu straeon y cleifion hyn dim ond i dynnu sylw at y ffaith nad yw'n dibynnu ar oedran nac ethnigrwydd... gall fod yn unrhyw un.'
    Ascoltato 29 min. 44 sec.
  • Barod i Fynd gyda Catherine Roberts a Robert Foley

    6 SET 2022 · Yn y bennod hon o Trafod Gwelliant, eisteddodd Catherine Roberts, Cyfarwyddwr Gweithrediadau, Grŵp Lleoliad Integredig Merthyr a Chynon a Robert Foley, Pennaeth Llif Cleifion o Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg i lawr gyda'r Athro John Boulton, Cyfarwyddwr Gwelliant Cymru, i dynnu sylw at y gwaith parhaus o wella llif cleifion a diogelwch cleifion yn Ysbyty'r Tywysog Siarl ym Merthyr Tudful. Wrth ddisgrifio effaith Covid a'r heriau ar ein gweithlu, eglurodd Catherine Roberts pa mor bwysig oedd creu dull oedd yn cael ei gefnogi gan staff, 'Sut y gallem greu dull yn yr ysbyty lle byddai’r cyfle i wella yn cael ei gefnogi a lle na fyddai’r cyfleoedd i fethu yn cael eu beirniadu ar yr un pryd. Oherwydd mae unrhyw un sy'n cymryd rhan mewn gwaith gwella yn gwybod eich bod chi'n rhoi cynnig ar rai pethau, ac mae rhai pethau'n gweithio a rhai pethau ddim. Ond mae'n rhaid i chi greu diwylliant lle mae'r ddau beth yn dderbyniol, nid dim ond diwylliant lle mae gwelliant yn cael ei groesawu a lle nad oes croeso i bopeth arall.' Ymhelaethodd Robert Foley ar effaith Covid-19 a'r diwylliant, 'Un o'r pethau a ddysgais drwy COVID, ac roedd yn gwbl glir i ddal gafael arno, oedd datganoli grym. Felly cymryd pŵer gan grŵp craidd canolog o bobl a'i roi yn ôl i'r rhai sy'n gwneud y gwaith gwneud. Ac rwy'n credu mai un o'r llwyddiannau mwyaf rydym wedi’i wneud yw sicrhau bod holl reolwyr y ward yn dod at ei gilydd, gan gymryd y cyfarfod safle hwn i ffwrdd o rai dethol, ac agor y cyfarfod safle hwnnw i bob un o reolwyr y ward, a’n holl wasanaethau eraill fel diagnosteg, fferyllwyr, ac ati.'
    Ascoltato 31 min. 37 sec.
  • Trafod Gwelliant gyda Gwelliant Cymru

    30 AGO 2022 · Croeso i Trafod Gwelliant. Dyma bodlediad gan Gwelliant Cymru lle rydym yn creu gofod diogel i'r bobl hynny sy'n gweithio ym maes iechyd a gofal yng Nghymru sydd eisiau gwneud i'r system weithio ychydig yn well i bawb. Ym mhob pennod, byddwn yn siarad â rhai o'r arweinwyr ym maes gwella i gael eu mewnwelediadau a'u profiadau personol.
    Ascoltato 49 sec.

Croeso i Trafod Gwelliant. Dyma bodlediad gan Gwelliant Cymru lle rydym yn creu gofod diogel i'r bobl hynny sy'n gweithio ym maes iechyd a gofal yng Nghymru sydd eisiau gwneud...

mostra di più
Croeso i Trafod Gwelliant. Dyma bodlediad gan Gwelliant Cymru lle rydym yn creu gofod diogel i'r bobl hynny sy'n gweithio ym maes iechyd a gofal yng Nghymru sydd eisiau gwneud i'r system weithio ychydig yn well i bawb. Ym mhob pennod, byddwn yn siarad â rhai o'r arweinwyr ym maes gwella i gael eu mewnwelediadau a'u profiadau personol.
mostra meno
Contatti
Informazioni

Sembra che non tu non abbia alcun episodio attivo

Sfoglia il catalogo di Spreaker per scoprire nuovi contenuti

Corrente

Copertina del podcast

Sembra che non ci sia nessun episodio nella tua coda

Sfoglia il catalogo di Spreaker per scoprire nuovi contenuti

Successivo

Copertina dell'episodio Copertina dell'episodio

Che silenzio che c’è...

È tempo di scoprire nuovi episodi!

Scopri
La tua Libreria
Cerca