Call 4 Concern
Scarica e ascolta ovunque
Scarica i tuoi episodi preferiti e goditi l'ascolto, ovunque tu sia! Iscriviti o accedi ora per ascoltare offline.
Descrizione
Pan fydd cyflwr claf yn gwaethygu at bwy ddylai’r claf neu’r teulu droi ato os , yn eu tyb nhw, bod yr achos yn cael ei anwybyddi gan y tîm...
mostra di piùYn y bennod hon mae Eirian Edwards uwch ymarferydd nyrsio yn Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn trafod y gwasanaeth arloesol cafodd ei gyflwyno gan y Bwrdd fis Ebrill 2023. Yn ôl Eirian, roedd 'na gydnabyddiaeth ymhlith y staff er bod ganddyn nhw lawer o brofiad ac arbenigedd, pan fydd rhywun yn mynd yn wael, mae’r tîm meddygol weithiau yn colli rhywbeth y mae’r teulu yn sylwi arno. Gallan nhw ffonio Call 4 Concern unrhywbryd.
“Rydyn ni'n cynnig y cyfle hwn i gleifion a pherthnasau gael rhywun wrth ochr eu gwely sydd â sgiliau ychwanegol ac sydd fel arfer yn dod â chefndir gofal critigol," meddai.
Fe fydd y bennod yn trafod yr heriau o gyflwyno’r gwasanaeth gan gynnwys perswadio’r staff meddygol na fyddai’r galwadau i Call 4 Concern yn rhai dibwys. Mae Eirian yn sôn am y cynlluniau i ymestyn y gwasanaeth i ysbytai eraill yng Ngogledd Cymru, a chydweithio gydag Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.
improvementcymru.net/podlediad
X: @GwelliantCymru
Informazioni
| Autore | Improvement Cymru |
| Organizzazione | Cari Hoskins |
| Sito | - |
| Tag |
-
|
Copyright 2026 - Spreaker Inc. an iHeartMedia Company
Commenti