![Copertina del podcast](https://d3wo5wojvuv7l.cloudfront.net/t_square_limited_480/images.spreaker.com/original/e31075378a420351e97dee55a8d9f5e7.jpg)
Contatti
Info
Croeso i bodlediad Am filiwn fydd yn trin a thrafod agweddau ar fyd athro sy’n arwain at gynyddu a datblygu disgyblion i fod yn siaradwyr Cymraeg ac anelu at greu...
mostra di più
Croeso i bodlediad Am filiwn fydd yn trin a thrafod agweddau ar fyd athro sy’n arwain at gynyddu a datblygu disgyblion i fod yn siaradwyr Cymraeg ac anelu at greu miliwn o siaradwyr!
Bydd y gyfres yn mynd o dan groen addysg drochi, gwyrth y canolfanau iaith, defnydd cymdeithasol o’r Gymraeg, llythrennedd, trawsieithu yn ogystal ag agor y drws i nodweddion athro cyfrwng Cymraeg effeithiol.
Os ydach chi yn dilyn cwrs hyfforddi athrawon, yn athro newydd gymhwyso neu ar ddechrau’ch gyrfa neu’n aelod or’ tîm rheoli yna dewch i wrando!
Cewch syniadau ymarferol, llawr-dosbarth ar gyfer eich cwrs hyfforddi athrawon, cynllun datblygu a hyfforddiant mewn ysgol neu ymchwil personol yng nghwmni pobl sy’n deall yn athrawon, ymarferwyr, arbenigwyr ac ymchwilwyr profiadol ar draws Cymru!
Diolch i'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol am y nawdd i ddatblygu a chreu'r podlediadau hyn ar gyfer AGA, Prifysgol Bangor mewn cydweithrediad gyda sefydliadau Addysg Gychwynnol Athrawon Cymru.
mostra meno

-
Am Lwyfan
11 AGO 2023 · Pam bod cymaint o berfformwyr yn dewis dilyn cwrs dysgu? Ydy hi wir yn bosib cael yr un wefr â’r theatr, y gig neu’r stiwdio o flaen disgyblion? Mi fydd Rhian-Mair Jones yn holi’r canwr, John Ieuan Jones, Marged Rhys sy’n aelod o’r band gwerin Plu, Lora Lewis, sydd wedi treulio blynyddoedd yn llais cefndir i sawl grŵp, yr actores, Victoria Pugh, Rhys Edwards o Fleur de Lis a’r pennaeth ysgol, Gareth Owen, er mwyn gweld pa mor hawdd ydy symud o’r llwyfan a’r llifoleuadau i awditoriwm gyffrous yr ystafell ddosbarth. -
Beth, pam a sut ydyn ni’n trawsieithu?
7 LUG 2023 · Bydd y Dr Cen Williams a fathodd y term trawsieithu, Yr Athro Enlli Thomas, Dr Bryn Jones o Brifysgol Bangor a Dr Sian Lloyd-Williams, Prifysgol Aberystwyth a myfyrwyr AGA Prifysgol Bangor yn mynd i’r afael â thrawsieithu yn y podlediad yma. -
Am Lythrennedd
23 GIU 2023 · Pam bod gennym ni Fframwaith Llythrennedd? Sut mae dod i ddeall bod llythrennedd yn hanfodol ar draws y cwricwlwm? Dafydd Roberts a Medi Wyn Edwards o GwE, a Sion Owen o Brifysgol Abertawe sy’n trafod y datblygiadau diweddaraf yn y sectorau cynradd ac uwchradd a’r cyffro newydd am lythrennedd. -
Am Drochfa
9 GIU 2023 · Beth am blymio i’r dwfn efo ni ar ymweliad â Chanolfan Iaith Porthmadog yng Ngwynedd er mwyn dysgu mwy am natur y gwaith eithriadol sy’n digwydd yno dan ofal Cari Haf Lewis. Mi gawn ni gyfarfod Jess a Chloe a’u rhieni - dwy ferch arbennig sy’n hapus braf yn sgwrsio yn y Gymraeg yn dilyn eu trochfa ddwys yn yr iaith. -
Am Drochi
26 MAG 2023 · Mae ymchwil yn dangos mai trochi disgyblion mewn iaith newydd yw’r ffordd orau o gaffael yr iaith honno. Ond beth yn union yw trochi a phryd mae o’n digwydd? Er mwyn gwybod mwy am werth y gwaith anhygoel sy’n digwydd mewn gwahanol ganolfannau a deall mwy am y cefndir academaidd, ymunwch efo Nesta Davies, Pennaeth Uned Iaith Ynys Môn, Dr Mirain Rhys, darlithydd ym Mhrifysgol Met Caerdydd a Siân Alwen, Pennaeth Mewn Gofal Ysgol Glan Clwyd er mwyn bwrw goleuni ar drochi. -
AmDani
12 MAG 2023 · Ar ben pob dim arall, mae’r Siarter Iaith a’r pwysau ar athrawon ddatblygu Cymraeg Cymdeithasol y disgyblion! Beth ydy pwrpas hyn? Ymunwch efo Gwenan Ellis Jones, Awdurdod Addysg Gwynedd, Iona Llŷr o Awdurdod Addysg Sir Caer, Gareth Williams, Dirprwy Bennaeth Ysgol Gyfun Gŵyr, a disgyblion Ysgol Brynrefail er mwyn cael deall yn union pam bod datblygu a defnyddio’r iaith y tu allan i furiau’r dosbarth yn hanfodol ac amhrisiadwy wrth fynd amdani am y miliwn. -
Croeso i bodlediad Am Filiwn
5 MAG 2023 · Croeso i bodlediad Am filiwn fydd yn trin a thrafod agweddau ar fyd athro sy’n arwain at gynyddu a datblygu disgyblion i fod yn siaradwyr Cymraeg ac anelu at greu miliwn o siaradwyr! Bydd y gyfres yn mynd o dan groen addysg drochi, gwyrth y canolfanau iaith, defnydd cymdeithasol o’r Gymraeg, llythrennedd, trawsieithu yn ogystal ag agor y drws i nodweddion athro cyfrwng Cymraeg effeithiol. Os ydach chi yn dilyn cwrs hyfforddi athrawon, yn athro newydd gymhwyso neu ar ddechrau’ch gyrfa neu’n aelod or’ tîm rheoli yna dewch i wrando! Cewch syniadau ymarferol, llawr-dosbarth ar gyfer eich cwrs hyfforddi athrawon, cynllun datblygu a hyfforddiant mewn ysgol neu ymchwil personol yng nghwmni pobl sy’n deall yn athrawon, ymarferwyr, arbenigwyr ac ymchwilwyr profiadol ar draws Cymru! Diolch i'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol am y nawdd i ddatblygu a chreu'r podlediadau hyn ar gyfer AGA, Prifysgol Bangor mewn cydweithrediad gyda sefydliadau Addysg Gychwynnol Athrawon Cymru.
Croeso i bodlediad Am filiwn fydd yn trin a thrafod agweddau ar fyd athro sy’n arwain at gynyddu a datblygu disgyblion i fod yn siaradwyr Cymraeg ac anelu at greu...
mostra di più
Croeso i bodlediad Am filiwn fydd yn trin a thrafod agweddau ar fyd athro sy’n arwain at gynyddu a datblygu disgyblion i fod yn siaradwyr Cymraeg ac anelu at greu miliwn o siaradwyr!
Bydd y gyfres yn mynd o dan groen addysg drochi, gwyrth y canolfanau iaith, defnydd cymdeithasol o’r Gymraeg, llythrennedd, trawsieithu yn ogystal ag agor y drws i nodweddion athro cyfrwng Cymraeg effeithiol.
Os ydach chi yn dilyn cwrs hyfforddi athrawon, yn athro newydd gymhwyso neu ar ddechrau’ch gyrfa neu’n aelod or’ tîm rheoli yna dewch i wrando!
Cewch syniadau ymarferol, llawr-dosbarth ar gyfer eich cwrs hyfforddi athrawon, cynllun datblygu a hyfforddiant mewn ysgol neu ymchwil personol yng nghwmni pobl sy’n deall yn athrawon, ymarferwyr, arbenigwyr ac ymchwilwyr profiadol ar draws Cymru!
Diolch i'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol am y nawdd i ddatblygu a chreu'r podlediadau hyn ar gyfer AGA, Prifysgol Bangor mewn cydweithrediad gyda sefydliadau Addysg Gychwynnol Athrawon Cymru.
mostra meno
Bydd y gyfres yn mynd o dan groen addysg drochi, gwyrth y canolfanau iaith, defnydd cymdeithasol o’r Gymraeg, llythrennedd, trawsieithu yn ogystal ag agor y drws i nodweddion athro cyfrwng Cymraeg effeithiol.
Os ydach chi yn dilyn cwrs hyfforddi athrawon, yn athro newydd gymhwyso neu ar ddechrau’ch gyrfa neu’n aelod or’ tîm rheoli yna dewch i wrando!
Cewch syniadau ymarferol, llawr-dosbarth ar gyfer eich cwrs hyfforddi athrawon, cynllun datblygu a hyfforddiant mewn ysgol neu ymchwil personol yng nghwmni pobl sy’n deall yn athrawon, ymarferwyr, arbenigwyr ac ymchwilwyr profiadol ar draws Cymru!
Diolch i'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol am y nawdd i ddatblygu a chreu'r podlediadau hyn ar gyfer AGA, Prifysgol Bangor mewn cydweithrediad gyda sefydliadau Addysg Gychwynnol Athrawon Cymru.
Informazioni
Autore | Y Pod Cyf. |
Categorie | Istruzione |
Sito | www.bangor.ac.uk |
g.m.williams@bangor.ac.uk |
Copyright 2024 - Spreaker Inc. an iHeartMedia Company