Pa effaith gaiff sefydlu Ysgol Feddygol ym Mhrifysgol Bangor ar iechyd pobl gogledd Cymru?
5 ott 2023 ·
46 min. 5 sec.
![Pa effaith gaiff sefydlu Ysgol Feddygol ym Mhrifysgol Bangor ar iechyd pobl gogledd Cymru?](https://d3wo5wojvuv7l.cloudfront.net/t_square_limited_480/images.spreaker.com/original/cbca04fc523606b02bf1867c1864ffb5.jpg)
Scarica e ascolta ovunque
Scarica i tuoi episodi preferiti e goditi l'ascolto, ovunque tu sia! Iscriviti o accedi ora per ascoltare offline.
Descrizione
Dyma bodlediad arall yn y gyfres o bodlediadau AM IECHYD. Bwriad y gyfres hon ydy rhoi platfform i ni gael trafod materion sy'n ymwneud ag iechyd a gofal a hynny...
mostra di più
Dyma bodlediad arall yn y gyfres o bodlediadau AM IECHYD.
Bwriad y gyfres hon ydy rhoi platfform i ni gael trafod materion sy'n ymwneud ag iechyd a gofal a hynny trwy gyfrwng y Gymraeg.
Recordiwyd y podlediad hwn o flaen cynulleidfa fyw yn stondin Prifysgol Bangor yn Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd 2023 a hynny ar ddiwrnod lansio ymgyrch recriwtio Ysgol Feddygol Prifysgol Bangor.
Mae'r newyddion bod ysgol feddygol newydd sbon ar fin cael ei sefydlu yma Mangor yn gyffrous iawn a mawr ydy'r edrych ymlaen at groesawu'r myfyrwyr cyntaf ym Medi 2024.
Ar gyfer y podlediad hwn, dan gadeiryddiaeth Dr Nia Jones, Arweinydd Rhaglen Meddygaeth, Prifysgol Bangor, cafwyd trafodaeth ddifyr yng nghwmni Dr Berwyn Owen (Prif Fferyllydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Fferyllydd Cymunedol, Penygroes), Dr Nia Hughes (Cyfarwyddwyr Meddygol Gofal Cychwynnol - Gorllewin), Dr Robin Parry (meddyg teulu), Dr Marc Edwards (Meddyg teulu ac Uwch ddarlithydd Clinigol mewn Addysg Iechyd, Prifysgol Bangor), a Sion O’Brien a Jasmine Blight (darpar feddygon).
Mwynhewch y gwrando!
Diolch i bob un o aelodau'r panel am fod yn barod i gyfrannu, i Aled Jones o gwmni Y Pod am y recordio a'r golygu a diolch i'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol am y nawdd i gynhyrchu'r gyfres o bodlediadau.
mostra meno

Informazioni
Autore | Y Pod Cyf. |
Sito | - |
Tag |
Copyright 2024 - Spreaker Inc. an iHeartMedia Company