Mari George
Scarica e ascolta ovunque
Scarica i tuoi episodi preferiti e goditi l'ascolto, ovunque tu sia! Iscriviti o accedi ora per ascoltare offline.
Descrizione
Bardd, awdures, golygydd...mae doniau geiriol di-ri gan ein gwestai yr wythnos hon. A glywsoch chi am ei nofel ‘Sut i Ddofi Corryn?’ Hon oedd nofel gyntaf ein gwestai yn y...
mostra di piùA glywsoch chi am ei nofel ‘Sut i Ddofi Corryn?’ Hon oedd nofel gyntaf ein gwestai yn y bennod hon ac fe gipiodd deitl Llyfr y Flwyddyn iddi yn 2024!
Eleni, yn ogystal mae hi wedi rhyddhau pamffled o gerddi, ‘Rhaff’, a golygu cyfrol o gerddi sy’n ein tywys ar hyd Lwybr Arfordir Cymru - Cerddi’r Arfordir.
Mari George yw’r cyn-ddisgybl dawnus sydd yn sgwrsio gydag Eve yn y bennod hon, ac yn ogystal a holi Mari am ei bywyd mae Eve yn mwynhau holi Mari ambell gwestiwn a rhannu ei barn wedi iddi ddarllen ei nofel.
Eleni, bydd Ysgol Llanhari yn dathlu ei phen-blwydd yn 50.
Trwy wrando ar bodlediad Llwybrau Llanhari, gobeithio y cewch chi flas ar y profiadau, anturiaethau, a llwybrau bywyd gwahanol aelodau amrywiol o deulu Llanhari.
Yma cewch glywed hanesion ddoe a heddiw yr ysgol yng nghwmni disgyblion presennol yr ysgol.
Informazioni
| Autore | Y Pod Cyf. |
| Organizzazione | Y Pod Cyf. |
| Sito | - |
| Tag |
Copyright 2026 - Spreaker Inc. an iHeartMedia Company
Commenti