Hac Iechyd Cymraeg

16 lug 2019 · 26 min. 53 sec.
Hac Iechyd Cymraeg
Descrizione

Sut mae defnyddio rhith realaeth (Virtual Reality) i ddysgu nyrsus? Oes modd i roi ymarferion ffisiotherapi ar Ap? Ydy hi’n bosib creu rhaglen rheoli poen i gleifion yn Gymraeg? Mae...

mostra di più
Sut mae defnyddio rhith realaeth (Virtual Reality) i ddysgu nyrsus? Oes modd i roi ymarferion ffisiotherapi ar Ap? Ydy hi’n bosib creu rhaglen rheoli poen i gleifion yn Gymraeg?

Mae clinigwyr a gweithwyr yn y gwasanaeth iechyd yn wynebu problemau fel hyn dydd ar ôl dydd ac yn aml ddim yn gwybod at bwy i droi.

Yn y podlediad hwn fe fyddwn ni’n codi’r llen ar yr Hac Iechyd Cymraeg 2019 , sef ‘marathon dyfeisio’ dau ddiwrnod a gynhaliwyd yn Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yng Nghaerdydd, lle daeth dros gant o bobl ynghyd i greu atebion digidol neu dechnolegol i’r sialensiau hyn- yn apiau, prototeip neu syniad o gynnyrch newydd.

Meddai Ifan Evans, cyfarwyddwr Technoleg, Digidol a Thrawsnewid Llywodraeth Cymru: “ Mae systemau iechyd yn llawn pobl sydd yn alluog iawn, wedi’u hyfforddi’n broffesiynol tu hwnt, ac yn aml yn edrych yn fewnol er mwyn ceisio atebion i’r heriau hynny. Ond dwi’n meddwl bod na gyfleoedd mawr i rannu hynny’n allanol gyda diwydiant, gyda phrifysgolion, a chleifion, achos yn aml iawn ma’r syniadau creadigol yn medru dod o’r sectorau eraill.”

“Mae’r sesiwn hyn yn cysylltu’r pobl sydd â arian i ddatblygu projects newydd gyda phobl sydd â phroblemau a’r gallu, er mwyn creu’r dechnoleg sydd yn mynd i helpu, “ medd Siôn Charles, is-gyfarwyddwr Comisiwn Bevan oedd yn arwain y diwrnod.

Y gobaith yw y bydd yr arloesi cydweithredol yma yn arwain at ganlyniadau gwell i gleifion Cymru.
Rhodri Griffiths, aelod o Fwrdd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yw cyflwynydd Syniadau Iach.
mostra meno
Informazioni
Autore hello@lshubwales.com
Sito -
Tag

Sembra che non tu non abbia alcun episodio attivo

Sfoglia il catalogo di Spreaker per scoprire nuovi contenuti

Corrente

Copertina del podcast

Sembra che non ci sia nessun episodio nella tua coda

Sfoglia il catalogo di Spreaker per scoprire nuovi contenuti

Successivo

Copertina dell'episodio Copertina dell'episodio

Che silenzio che c’è...

È tempo di scoprire nuovi episodi!

Scopri
La tua Libreria
Cerca