Gwynfor Dafydd
Scarica e ascolta ovunque
Scarica i tuoi episodi preferiti e goditi l'ascolto, ovunque tu sia! Iscriviti o accedi ora per ascoltare offline.
Descrizione
Ar ddydd Llun y 5ed o Awst 2024 fe enillodd ein gwestai ni heddiw Goron Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf a hynny yn ei filltir sgwâr. Cipiodd ei Gadair gyntaf,...
mostra di piùCipiodd ei Gadair gyntaf, Cadair yr Urdd, tra’n ddisgybl yn yr ysgol yn 2016 ac ail Gadair y flwyddyn ganlynol pan ddaeth Eisteddfod yr Urdd i’n bro yn 2017.
Dychwelodd i’r ysgol droeon i gefnogi’r disgyblion presennol a’r haf hwn bu’n mentora’n beirdd ifanc ar gyfer gornest arbennig Talwrn yr Ifanc yn y Babell Lên ym Mharc Ynysangharad.
Heddiw, cawn gyfle i ddod i adnabod y Prifardd Gwynfor Dafydd.
Brooke a Harri, dau sy’n gyn-ddisgyblion yn Ysgol Gynradd Gymraeg Tonyrefail fel Gwynfor, fu’n mwynhau gwers o sgwrsio a hel atgofion.
Eleni, bydd Ysgol Llanhari yn dathlu ei phen-blwydd yn 50.
Trwy wrando ar bodlediad Llwybrau Llanhari, gobeithio y cewch chi flas ar y profiadau, anturiaethau, a llwybrau bywyd gwahanol aelodau amrywiol o deulu Llanhari.
Yma cewch glywed hanesion ddoe a heddiw yr ysgol yng nghwmni disgyblion presennol yr ysgol.
Informazioni
Autore | Y Pod Cyf. |
Organizzazione | Y Pod Cyf. |
Sito | - |
Tag |
Copyright 2024 - Spreaker Inc. an iHeartMedia Company
Commenti