#23 Meirion Jones; Cyngor Sir Gar; Gwasanaethau Cyhoeddus
Scarica e ascolta ovunque
Scarica i tuoi episodi preferiti e goditi l'ascolto, ovunque tu sia! Iscriviti o accedi ora per ascoltare offline.
Descrizione
Cyngor Sir Caerfyrddin yw un o’r awdurdodau unedol mwyaf yng Nghymru, a’r cyflogwr lleol mwyaf gyda thua 8,000 o staff. Mae'r prif adrannau yn cynnwys; y Prif Weithredwr, Cymunedau, Gwasanaethau...
mostra di piùGwasanaethau Corfforaethol, Addysg a Phlant, Seilwaith ac Adeiladu.
Mae'r Cyngor hefyd yn cynnig cynlluniau ar gyfer prentisiaid. Fel prentis, byddwch yn dysgu sgiliau sy'n berthnasol i'r rôl rydych chi'n hyfforddi i'w gwneud, yn cwblhau cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol ac yn ennill cyflog. Byddwch yn gweithio ochr yn ochr â chydweithwyr profiadol a fydd yn eich cefnogi i ennyn profiad a dysgu am y swydd. Mae yna 5 lefel o brentisiaethau. Mae rhain yn cynnwys: Lefel 2 - Prentisiaeth Sylfaenol, Lefel 3 - Prentisiaeth, Lefel 4/5 - Prentisiaeth Uwch, Lefel 6 - Prentisiaeth Gradd. Mae'r lefel yn dibynnu ar y rôl rydych chi'n ymgeisio amdani. Mae modd i unrhyw un sy'n 16 oed neu'n hŷn ddilyn prentisiaeth, nid oes uchafswm o ran oedran ond mae'n bosibl y bydd rhai cyfyngiadau neu ofynion mynediad eraill yn dibynnu ar y rôl rydych chi'n ymgeisio amdani. Ni fydd angen i chi dalu unrhyw gostau tuag at eich hyfforddiant oherwydd byddwn ni'n talu'r costau.
Mae ein holl rolau, gan gynnwys prentisiaethau a rolau graddedigion yn cael eu hysbysebu ar ein gwefan swyddi, a bydd angen i chi wneud cais ar-lein. Bydd angen i chi gofrestru ar gyfer cyfrif cyn gwneud eich cais.
Mae profiad gwaith yn rhoi cyfle i chi ddysgu amdanom ni yma yng Nghyngor Sir Caerfyrddin a chael profiad o sut rydym yn gweithio Gall unrhyw un dros 14 oed (blwyddyn 10 yn yr ysgol) wneud cais am brofiad gwaith di-dâl.
Informazioni
Autore | Menter Gorllewin Sir Gâr |
Organizzazione | Menter Gorllewin Sir Gâr |
Sito | - |
Tag |
-
|
Copyright 2024 - Spreaker Inc. an iHeartMedia Company